Mae’r Amgueddfa’n ail-agor ar ôl gwyliau’r gaeaf ar ddydd Sadwrn 8fed Ebrill (Dydd Sadwrn y Pasg) ac os ydych wedi bod o’r blaen fe sylwch ar rai newidiadau. Rydym wedi cadw’r arddangosfa boblogaidd ‘Llechi a Datblygiad Pentref Glyndyfrdwy’ am ail flwyddyn ac eleni mae gennym hefyd Sioe Bypedau Owain Glyndŵr nad yw i’w methu.

Mae yna le arbennig i blant ble gallant wisgo fel un o filwyr Owain Glyndŵr a/neu ddylunio eu harfbais eu hunain. Mae yna hefyd reilffordd bach i blant i chwarae gyda, i fyny’r grisiau tra’n edmygu rheilffordd fodel ‘ i oedolion’ y lein o Berwyn i Orsaf Carrog.

Nid oes tâl mynediad ond rydym yn gwerthfawrogi rhoddion i’n cadw i fynd.

Edrychwn ymlaen at eich gweld o ddydd Llun i ddydd Gwener 12.00 tan 3.00 yp a dydd Sadwrn / dydd Sul 11.00 yb i 4.00 yp.