Arddangosfa Newydd ar gyfer 2026

Pleidlais i Wragedd ac Ymgyrchu dros Heddwch  Yn dilyn ein harddangosfa y flwyddyn diwethaf ar y Ddeiseb Heddwch Gwragedd Cymru 1924, rydym wedi ehangu’r testun i gynnwys hawliau merched a’r ymgyrch heddwch. Mae modd i chi bellach ddysgu am hanes teulu o swffragetiaid lleol yn ogystal â gwragedd o’r ardal fu’n ymgyrchu dros ddiarfogi nuclear ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif.