Cofiwn ein milwyr a’r sifiliaiad a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, ac a enwir ar yr wyth cofeb rhyfel sydd gennym.

Portreadir yr Artistiaid a’r Awduron sydd â chysylltiad ag Edeyrnion yn yr arddangosfa newydd.  Gobeithiwn y gall yr Amgueddfa ailagor cyn bo hir er mwyn i ymwelwyr weld yr arddangosfa hon a’r arddangosfa newydd ar y Faciwîs yng Nghorwen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Arddangosir, hefyd, fideo Ysgol Caer Drewyn ‘Ysbrydion Corwen’ a luniwyd yn 2018.

This image has an empty alt attribute

Gellir gweld medal Biliards Clwb Cyfansoddiadol Corwen, a’r cysylltiad rhyngddi â milwr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ceir eitemau am Neuadd Rhug a Neuadd Pale.

Dilynnwch y ddolen i Weplyfr yr Amgueddfa.