Dywed Marc fod Huw, fel pawb arall, wedi’i groesawu ef yn gynnes iawn pan ddechreuodd weithio yng Nghorwen llynedd. Ychwanegodd fod Huw yn ddyn hawddgar. Er mai am gyfnod byr yn unig y cafodd ei gwmni, gwnaeth argraff arno. O na bai pob Cynghorydd fel ef.

Roedd Huw yn Gadeirydd Cymdeithas Dreftadaeth a Diwylliannol Edeyrnion o’i ddechrau yn 2012, hyd 2016, pan ymddiswyddodd oherwydd ymrwymiadau eraill, ond parhaodd yn Ymddiriedolwr/Rheolwr. Ei weledigaeth oedd cael amgueddfa yng Nghorwen i adrodd hanes yr ardal y bu’n byw ynddi a’i gwasanaethu drwy’i oes. Gwireddwyd ei weledigaeth yn 2015 pan agorodd Amgueddfa Corwen am y tro cyntaf yng Nghapel Coch. Bu’n stiwardio yn Amgueddfa Corwen bob dydd Gwener hyd ei salwch fis Gorffennaf llynedd, a gwelir ei eisiau yn fawr gan holl wirfoddolwyr yr Amgueddfa.