Arwyddwyd Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-4, a gydlynwyd gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, gan 390,296 o fenywod er mwyn apelio ar America i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd, er mwyn atal rhyfel arall yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 2025 cafodd arddangosfa arbennig ei lansio yn Amgueddfa Corwen i goffau’r ymgyrch hon a’r cefndir y tu ôl iddi, ynghyd a hanes rhai o’r gwragedd lleol a lofnododd y ddeiseb.





