Yn ddiweddar derbyniais ganiad ffôn gan Mrs Beryl Jones, yn ymholi am Amgueddfa Corwen. Mae Mrs Jones (yn awr yn ei nawdegau) yn wyres i John Roberts, perchennog Gwesty Owain Glyndŵr yng Nghorwen yn niwedd y bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Mae ganddi ychydig o eitemau yn gystylltedig â’r gwesty yn y cyfnod hwnnw ac y mae hi yn dymuno eu rhoddi i’r Amgueddfa. Hefyd, er ei bod yn awr yn byw yn Llundain, mae ganddi gyfoeth o straeon i’w rhannu mewn cyswllt â Chorwen.
Mae hi wedi anfon amryw o ddogfennau perthnasol i’w thaid, gan gynnwys y llythyr hwn a ysgrifennodd i’r Arglwydd Newborough ynghylch darparu Cinio a Thê i saith gant (700) o fobl yn y Rhug yn y flwyddyn 1899. Cynigwyd ginio sylweddol am ddeuswllt (20c) yr un, a chwecheiniog (2.5c) am dê. Mae’r penllythyr yn fendigedig, gyda cheffylau a cherbydau yn myned heibio are y ffordd a thŵr yr Eglwys i’w weld yn specian drwy’r coed.
Mae’n amlwg fod y Gwesty yn fusnes llwyddiannus dros ben ac mi ‘rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i ddarganfod mwy o straeon ynghlwm yng Ngwesty yr Owain Glyndŵr.