Rydym heddiw wedi derbyn £7900 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), a defnyddir rhan ohoni i ariannu dwy arddangosfa gyffrous newydd yn Amgueddfa Corwen, ar Owain Glyndŵr a Chorwen – Croesffordd Gogledd Cymru.  Dywed yr arddangosfeydd hyn stori Corwen ac ardal Edeyrnion o’r cyfnod cynhanes i’r presennol, a hynny drwy lygaid a chlustiau teithwyr a phobl leol.  Gwneir y gwaith gan wirfoddolwyr o’r gymuned leol, a hoffem gynnwys cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn y cynllun unigryw hwn.

 

Bydd y cynllun yn caniatáu i bobl leol ac ymwelwyr i’r ardal ddeall sut a pham y datblygodd yr ardal dros amser.  Gobeithir y daw’r ysgolion lleol yn rhan o’r gwaith, gan roi i’r plant gwell ddealltwriaeth o’r lle y maent yn byw ynddo.  Bydd Bwrdd Cof Cymunedol yn dangos lluniau o Fywyd a Phobl Corwen oddi ar yr Ail Ryfel Byd, gyda lle i unigolion gofnodi’u meddyliau a’u hatgofion.  Byddwn hefyd yn dechrau Canolfan Adnoddau er mwyn storio lluniau a dogfennau o’r gorffennol a’r presennol, i’w defnyddio heddiw ac yn y dyfodol.  Hoffem i’r gymuned wirfoddoli yn yr Amgueddfa, drwy ymchwilio, llunio arddangosfeydd, a stiwardio.  Hoffem hefyd gael benthyg, neu dderbyn rhoddion, o luniau, dogfennau ac arteffactau sy’n ymwneud ag Edeyrnion, er mwyn eu harddangos.

 

Mae’r amgueddfa ar gau ar hyn o bryd tra bod y gwaith yn cael ei orffen, ond fe’i hail-agorir ddydd Sadwrn, 18 Chwefror.  Byddwn yn cynnal Diwrnod Agored Cymunedol ddydd Sadwrn, 25 Chwefror, o 10.30am i 7.00pm, a gobeithiwn y gallwch ymuno a ni.