Dydd Iau, Gorffennaf 17 aethom, gyda chaniatad caredig y perchennog tir, ar ymweliad â Siambr Gladdu Tan y Coed, Rhydyglafes, Cynwyd. Dywedodd Fiona Gale, Pensaer y Sir, fod y Siambr Gladdu o’r Cyfnod Neolithig yn dyddio nôl tua 5500 o flynyddoedd i’r amser pan oedd dyn ond yn dechrau adeiladu cartrefi pren a thyfu cnydau. Byddai’r celfi wedi’i gwneud o garreg, coed neu ledr gan nad oedd metel yn bod bryd hynny.

 

Mae’r twmpath oddeutu 38m o hyd a 21m o led gydag uchder o ddim mwy na 3.2m. Mae’r siap a’s maint wedi’i newid dros y blynyddoedd fel canlyniad i waith aredig y tir ac ni wyddys beth oedd maint a’r siap gerwiddiol. Mae un ochr i’r twmpath wedi’i gloddio i ddangos maen capan gyda’r mesurau 3.5 x 2.4 x 0.5m, gyda’r siambr i’w weld odditano. Ni wyddys pryd na phwy fu’n cloddio a does dim gwybodaeth os cafwyd hyd i unrhywbeth ynddo.

 

Dydy gweddill y twmpath gladdu ddim wedi’i aflonyddu a gallem ond dyfalu beth oedd o dan ein traed. Mae’r safle wedi’i ddiogelu fel safle Cofadail Hynafol Rhestredig ac ni ellir cloddio yno heb ganiatâd.

 

Buom yn dychmygu ble roedd y bobl yn byw a sut le oedd yn y dyffryn yr adeg honno. Roeddem i gyd yn cysidro beth allai fod yn cuddio dan ein traed a fyddai’n datgelu mwy am y rhai fu’n troedio’r fan yma gymaint o flynyddoedd yn ôl.