Mwynhaodd Can Edeyrnion a ffrindiau ymweliad i Nantclwyd y Dre yn Rhuthun ddydd Iau, Awst 14. Hwn yw’r ty trefol ffram bren hynaf yng Nghymru ac fe’i adeiladwyd yn 1435. Bu pobl yn byw ynddo am dros bum canrif ac mae stafelloedd yn dangos saith gwahanol gyfnod. Mae’r gerddi – Gerddi’r Arglwydd – hefyd yn dyddio nol i’r Oesoedd Canol ac ar hyn o bryd yn cael  eu hadfer i ddangos  eu hanes      a’u datblygiad drwy’r canrifoedd. Diolch i Wendy am noson ddiddorol dros ben.