Cafwyd rhai datblygiadau cyffrous iawn ynglŷn â’r Arddangosfa Rheilffyrdd. Mae Cân Edeyrnion yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen a Chymdeithas Rheilffordd Corwen i droi’r Arddangosfa yn amgueddfa barhaol yng Nghapel Coch, Corwen. Mae’r cynllun wedi derbyn cefnogaeth lawn Cronfa Dreftadaeth y Loteri a bydd yn agor i gyd-fynd â dyfodiad y trên teithwyr cyntaf yng Nghorwen – ym mis Gorffennaf eleni gobeithio. Bydd cyfres o arddangosfeydd dros dro yn cyd-redeg â’r arddangosfeydd parhaol yn ymdrin â phob agwedd ar dreftadaeth a diwylliant ardal Edeyrnion. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i roi cymorth â phob agwedd ar gynnal yr arddangosfeydd ac yn gwahodd grwpiau a sefydliadau lleol i gyflwyno eu syniadau a chefnogi’r arddangosfeydd dros dro. Rydym yn awyddus i’r amgueddfa hon gynnwys yr holl gymuned.