Cynhaliwyd ein arddangosfa gyntaf ym Medi 2012 a’r testun oedd Corwen fel Tref Rheilffordd. Daeth dros 500 o ymwelwyr a bu iddynt fwynhau gweld yr hen luniau oedd yn dod ag atgofion lu iddynt. Clywyd llu o straeon gan wahanol bobl wrth iddynt hel atgofion am y gorffennol ac roedd hyn yn rhoi hwb i’r rhai oedd yn stiwardio yno.